1.  Gwybodaeth am Barnardo’s Cymru a chyd-destun ei waith

 

Mae Barnardo’s Cymru wedi bod yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru ers dros 100 mlynedd ac mae’n un o’r elusennau plant mwyaf yn y wlad. Ar hyn o bryd mae gennym 85 o wahanol wasanaethau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag 16 o’r 22 awdurdod lleol. Yn 2015-16, buom yn gweithio’n uniongyrchol gyda 8,884 o blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae gwasanaethau Barnardo’s Cymru yng Nghymru yn cynnwys: prosiectau gadael gofal a gwasanaethau i bobl ifanc ddigartref, cynlluniau gofalwyr ifanc, cynlluniau maethu a mabwysiadu arbenigol, canolfannau teuluoedd a chefnogi teuluoedd, cymorth rhianta, prosiectau datblygu cymunedau, cefnogaeth deuluol i blant sy’n cael eu heffeithio gan garchariad eu rhieni, cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau gan rieni, seibiant byr a gwasanaethau cynhwysol i blant a phobl ifanc anabl, asesiad a thriniaeth i bobl ifanc sy’n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol neu sy’n achosi pryder a gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl, neu sydd wedi cael eu cam-drin ac wedi dioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant, a gwasanaethau i bobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau.

 

Mae gwasanaethau Barnardo’s Cymru i gyd yn wahanol, ond mae pob un yn credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r cychwyn gorau mewn bywyd, pwy bynnag ydyn nhw, beth bynnag maen nhw wedi’i wneud a beth bynnag maen nhw wedi bod drwyddo. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gawsom o’n gwaith uniongyrchol gyda phlant i ymgyrchu dros well polisi plant a gofal cymdeithasol ac i hyrwyddo hawliau pob plentyn. Credwn y gall pob plentyn, hyd yn oed y rhai mwyaf agored i niwed, weddnewid eu bywydau â chymorth priodol, cefnogaeth ymroddedig ac ychydig o ffydd. Nod ein gwaith yw cefnogi teuluoedd cryfach, plentyndod mwy diogel a dyfodol cadarnhaol i’r plant rydym yn gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau gwell deilliannau i fwy o blant.

 

2.   Sylwadau cyffredinol

 

 

Ymateb i’r Ymgynghoriad

 

3.  Ai tri nod trosfwaol Llywodraeth Cymru yw’r amcanion priodol ac a yw’r Bil yn ddigonol er mwyn cyflawni’r rhain:

 

Ar y cyfan, rydym yn cefnogi’r tri amcan cyffredinol sydd yn y Bil; er hyn, rydym yn cwestiynu geiriad yr amcan cyntaf. Rydym hefyd yn amau a yw’r Bil yn gwbl ddigonol er mwyn cyflawni pob un o’r tri amcan.

 

3.1. Yr amcan cyntaf:  “fframwaith deddfwriaethol unedig ar gyfer cefnogi pob plentyn ag ADY sydd o oedran ysgol gorfodol neu’n iau a phob person ifanc sydd ag ADY sydd mewn ysgol neu addysg bellach (AB).”

 

Mae’r fframwaith yn cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion neu addysg bellach, ond credwn y gellid newid hyn er mwyn cynnwys y rhai sydd ar leoliadau hyfforddiant, neu sy’n ymwneud â dysgu seiliedig ar waith a chynlluniau prentisiaeth. Byddai hyn yn adlewyrchu’r opsiynau presennol sydd ar gael i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd oedran hŷn nag oedran ysgol gorfodol. Byddai hyn ei dro yn golygu bod angen ehangu cwmpas y partïon sy’n gyfrifol am gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol i gynnwys darparwyr hyfforddiant eraill. Ar ôl ymgynghori â gwasanaethau Barnardo’s sy’n cefnogi pobl ifanc daethom yn ymwybodol o bryder ynglŷn â phobl ifanc sydd wedi gadael addysg, a sut y bydd eu hanghenion dysgu’n cael eu diwallu wrth symud ymlaen, i’w cefnogi yn eu dewisiadau ôl-16. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun newidiadau i Gyrfa Cymru sy’n golygu llai o gapasiti i weithio gydag unigolion. 

 

Mae’r amcan cyntaf yn ymddangos yn briodol, ac yn un y gellir ei gyflawni, ar gyfer plant a phobl ifanc o oedran ysgol gorfodol neu iau. Er hyn, gellid cryfhau’r Bil ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Bil eisoes yn nodi y dylid ystyried cynllun datblygu unigol o fewn Cynllun Gofal a Chymorth plant sy’n derbyn gofal sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY); rydym yn awgrymu y dylai cynlluniau datblygu unigol hefyd fod yn rhan o Gynlluniau Llwybr ar gyfer gadawyr gofal sydd ag ADY. Mae addysg yn elfen allweddol o’r Cynllun Llwybr ac mae’n hanfodol i’r broses lle mae pobl ifanc yn datblygu i fod yn oedolion. Wrth ystyried yr uchelgais yn y Bil hwn i bob person ifanc sydd ag ADY fod â dyheadau uchel ar gyfer eu dyfodol, mae gofyniad statudol i sicrhau bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnwys mewn Cynllun Llwybr yn hanfodol. Dylid adolygu hyn yn unol â’r Cynllun Llwybr, yn yr un modd â Chynllun Gofal a Chymorth. Bydd angen ystyried trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol a gweithio ar draws sectorau er mwyn cael cynllun cyfannol i bobl ifanc unigol.

 

Credwn hefyd, er mwyn gwireddu bwriad polisi’r Bil, bod dadl gref dros wneud cynlluniau datblygu unigol yn rhan annatod o unrhyw Gynlluniau Gofal a Chymorth a allai fod yn bodoli ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc ag ADY, sydd hefyd wedi cael eu hasesu fel rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Dylid cryfhau’r amcan hwn ymhellach ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth. Gellid gwneud hyn drwy ddarpariaeth a fyddai’n rhoi cyfrifoldeb ar y corff perthnasol i ymgysylltu â’r sefydliadau lle mae pobl ifanc yn cael eu cadw’n gaeth, i gadw a hefyd i gynnal cynllun datblygu unigol a’i ymgorffori mewn unrhyw gynlluniau lles sydd yn eu lle tra maent yn cael eu lletya, neu eu cadw’n gaeth, fel rhan o’r broses o gynllunio ar gyfer eu rhyddhau yn ôl i’r gymuned.

 

Dylid sefydlu proses, lle byddai’r wybodaeth a gedwir am ADY yn cael ei chasglu fel mater o drefn a’i rhannu gan yr awdurdod lleol cartref â’r sefydliad lle mae’r person ifanc yn cael ei gadw. Dylai hyn fod yn bosibl os oes strwythur diogel wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod modd chwilio’r wybodaeth, heb amharu ar breifatrwydd unigolion. Yn ychwanegol at hyn, byddem yn argymell yn gryf y dylai’r grym deddfwriaethol fod wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod cynlluniau datblygu unigol yn cael eu cynnal ar gyfer y person ifanc tra mae’n cael ei gadw’n gaeth yn ogystal â phan mae’n cael ei ryddhau. Byddai angen ystyried y broses hon fel rhan o’r trefniadau sy’n cael eu cynnwys yn Rhan 11 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

3.2.Yr ail amcan: creu “proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol.”

 

Mae’r amcan hwn yn ganolog i weithredu bwriad polisi’r Bil ac i gefnogaeth effeithiol a gwell deilliannau i blant a phobl ifanc. Er hyn, bydd angen cydnabyddiaeth glir o oblygiadau cost darparu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol i grŵp sylweddol fwy o bobl na’r rhai hynny sydd ar ddatganiad ar hyn o bryd. Rydym yn cydnabod y bydd angen hyfforddi a datblygu staff i gyd-fynd â gweithredu’r Bil, a hefyd y bydd angen prosesau er mwyn sicrhau bod cofnodion a chynlluniau’n fwy cludadwy, gan gynnwys ystyried sut y gellir storio a rhannu’r wybodaeth hon yn ddiogel.

 

3.3. Y trydydd amcan: creu “system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau.”

 

Rydym yn gefnogol iawn i’r darpariaethau hynny yn y Bil sy’n galw am fwy o gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion a rhoi lle i blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanynt. Teimlwn y bydd cynnwys dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ar wyneb y Bil yn cryfhau’r amcan hwn, gan gynnig atebolrwydd a chyfle arall i graffu mewn tribiwnlys.

 

Yn ychwanegol at hyn, dylid nodi ar wyneb y Bil, mai cyfrifoldeb y corff a fydd yn paratoi ac yn cynnal y cynllun datblygu unigol yw sicrhau bod yr wybodaeth sydd yn y cynllun yn gwbl ddealladwy i’r plant, y rhieni a’r bobl ifanc y mae’n berthnasol iddynt. Er bod y memorandwm esboniadol yn awgrymu y bydd cod gorfodol yn darparu gofynion manylach yn ymwneud â sut y bydd cynlluniau datblygu unigol yn cael eu creu, eu cynnal a’u hadolygu, credwn y bydd rhoi gofyniad ar wyneb y Bil i sicrhau bod pob cynllun yn ddealladwy i’r rhai y mae’n effeithio arnynt, yn sicrhau bod y broses hon yn fwy cadarn.

 

Rydym yn falch o weld bod y Bil yn nodi y dylai plant a phobl ifanc sydd ag ADY gael mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol. Er hyn, bydd yn bwysig bod pob plentyn, rhiant a pherson ifanc sydd ag ADY yn cael ei hysbysu a’i atgoffa’n rheolaidd ynglŷn â’i hawl i wasanaeth eirioli annibynnol o ddechrau’r broses, ac nid yn unig pan mae’n gwneud cais. Er bod awgrym unwaith eto yn y memorandwm esboniadol y bydd y manylion ynglŷn â sut y darperir gwasanaethau eirioli yn cael eu cynnwys mewn codau gorfodol, mae angen cryfhau darpariaethau ar wyneb y Bil i gefnogi ymateb cyson gan y rhai sydd â dyletswydd ledled Cymru. Rydym yn ymwybodol bod y ddarpariaeth gwasanaethau eirioli annibynnol bresennol ledled Cymru wedi bod yn destun pryder, o ran pa mor dda y mae plant a phobl ifanc sy’n gymwys yn deall eu hawl i gael gwasanaeth eirioli annibynnol ac yn gallu cael mynediad at gymorth o’r fath. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyfeirio at y pryder hwn hefyd. Rydym hefyd yn ymwybodol drwy ein gwaith bod y darparwyr gwasanaethau eirioli annibynnol presennol dan bwysau mawr. Credwn fod angen neges gryfach ynglŷn â hawl plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i wasanaethau eirioli, er mwyn gwireddu bwriad polisi’r Bil a sicrhau darpariaeth ddigonol.

 

Rydym yn cydnabod bod angen sefydlu corff tribiwnlys statudol cadarn ar gyfer llawer o faterion sy’n ymwneud ag agweddau eraill ar fywyd ysgol, megis derbyniadau neu waharddiadau, fel sydd wedi cael ei argymell yn y gorffennol.[1] Yn ogystal, mae ehangu hawliau i bob plentyn a pherson ifanc y nodwyd bod ganddo ADY yn gam cadarnhaol. Er hyn, mae angen sicrhau nad yw ehangu cylch gwaith Tribiwnlys Addysg Cymru, a newid yr enw o Dribiwnlys Anghenion Arbennig Cymru, yn glastwreiddio’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r rhai sy’n cyflwyno anghydfod sy’n ymwneud ag ADY.

 

Rydym yn bryderus ynglŷn â’r straen diangen a allai gael ei achosi os yw plant, pobl ifanc a’u rhieni yn gorfod ymwneud â systemau tribiwnlys ar wahân ar gyfer addysg ac iechyd. Credwn y dylid ystyried sut y gellid symleiddio’r system tribiwnlysoedd, o ran y ffordd y mae’n ymwneud â materion fel cynlluniau datblygu unigol, er mwyn ystyried materion addysg ac iechyd – os ydynt yn effeithio ar ei gilydd – drwy un broses.

 

4. Nodau Craidd:

 

4.1. Cyflwyno’r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rydym yn croesawu’r defnydd newydd o iaith. Teimlwn ei fod yn fwy cynhwysol ac y gallai olygu llai o stigma i blant a phobl ifanc sydd ag ADY. Rydym hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i gefnogi rhagor o blant a phobl ifanc o dan yr un ymbarél, yn hytrach na’r gwahanu a oedd yn amlwg dan y cynlluniau AAA, gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy. Er hyn, rhaid cydnabod goblygiadau cefnogi grŵp mwy o blant a phobl ifanc, o ran costau ychwanegol a’r angen am fwy o adnoddau. Bydd prinder adnoddau’n cael effaith ddifrifol ar weithrediad y nod craidd hwn.

 

4.2. Ystod oedran 0-25

Rydym yn croesawu’r bwriad i ehangu’r ystod oedran i 0-25 oed. Dylai hyn helpu i adnabod yr angen am gefnogaeth yn gynharach a lleihau’r teimlad o fod yn sefyll ar ‘ymyl clogwyn’, y cyfeirir ato gan lawer o bobl ifanc, pan mae cefnogaeth yn dod i ben yn ystod y cyfnod o drosglwyddo i wasanaethau oedolion.[2]

 

Er hyn, rydym yn amau a yw’r Bil yn ddigonol er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc sydd dros oedran ysgol gorfodol, yn enwedig os nad ydynt yn aros mewn ysgol neu addysg bellach, gan fod y gofynion cyfreithiol o fewn y Bil fel pe baent yn lleihau ar ôl cyrraedd y pwynt hwn ar gyfer y grŵp hwn o blant a phobl ifanc.

 

Rydym hefyd yn amau a yw’r lefel briodol o gefnogaeth ar gael i adawyr gofal sydd ag ADY, gan nad oes cyfeiriad at y Cynllun Llwybr a sut y byddai hynny’n gweithio gyda’r broses ADY a’r cynllun dysgu unigol.

 

Yn ogystal, rydym yn pryderu ynglŷn â’r bwriad i “gadw” cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth, a’u cynnal unwaith eto pan fyddant yn cael eu rhyddhau, yn hytrach na dal i gynnal y cynlluniau tra maent yn cael eu cadw’n gaeth. Rydym yn amau a fydd hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc ag ADY sy’n cael eu cadw’n gaeth yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei hangen yn gyson tra maent yn cael eu cadw’n gaeth. Ymddengys bod hyn yn gwrthdaro â bwriadau Rhan 11 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae’n peri pryder penodol hefyd wrth ystyried y nifer anghymesur o fawr o bobl ifanc ag ADY sy’n cael eu cadw’n gaeth, o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.[3] Er na fyddem yn cefnogi troseddoli plant a phobl ifanc, os ydynt yn mynd i gael eu cadw’n gaeth, gellid dadlau y byddai hwn yn gyfnod hollbwysig ar gyfer adsefydlu, gan fod addysg yn elfen allweddol o wella cyfleoedd mewn bywyd a lleihau’r posibilrwydd o gwympo’n ôl.[4]

 

Yn ogystal â sicrhau bod cynlluniau datblygu unigol yn cael eu cynnal yn hytrach na dim ond eu cadw ar gyfer pobl ifanc tra maent yn cael eu cadw’n gaeth, credwn ei bod hefyd yn bwysig bod dyletswydd ar weithwyr proffesiynol i wneud asesiad o ADY pan fydd yr unigolyn yn cyrraedd y sefydliad diogel. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y gyfran sylweddol o bobl ifanc sydd wedi cael eu cadw’n gaeth ac sydd ag ADY nad ydynt wedi cael eu hadnabod cyn hyn,[5] yn cael cefnogaeth briodol yn gynharach.

 

4.3. Cynllun unedig

Rydym yn croesawu’r bwriad i gyflwyno cynllun unedig, yn enwedig gan fod hyn yn gyfle i helpu i gefnogi rhagor o blant a phobl ifanc sydd ag ADY.

 

Er hyn, rhaid rhoi ystyriaeth briodol i holl oblygiadau cefnogi grŵp mwy o bobl, o ran cost ac adnoddau. Fel arall, ni fydd bwriad polisi’r Bil yn cael ei wireddu.

 

Byddem yn dadlau’n gryf bod angen sicrhau bod pob plentyn sydd â chynllun, y rhieni, a phob person ifanc sydd â chynllun yn deall cynnwys y cynllun yn iawn. Dylai hyn gynnwys dealltwriaeth glir o natur eu hanghenion dysgu ychwanegol a’r ddarpariaeth a fydd yn cael ei sefydlu, yn ogystal â beth y gallan nhw ei wneud os nad ydyn nhw’n fodlon ag unrhyw ran o’r broses a’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt, o ran ffrindiau achos a gwasanaeth eirioli annibynnol.

 

Yn ychwanegol at hyn mae angen ystyried y goblygiadau o ran adnoddau o ganlyniad i fewnbwn amlasiantaethol. Bydd angen canllawiau clir a hyfforddiant wedi’i gysoni er mwyn sicrhau bod cynlluniau datblygu unigol yn gludadwy ac y gellir eu defnyddio gan lawer o wahanol weithwyr proffesiynol ym mywydau plant a phobl ifanc, yn ogystal â’r plant, y bobl ifanc a’r rhieni eu hunain.

 

Credwn y gallai templed statudol ar gyfer cynlluniau datblygu unigol alluogi dull mwy cydlynol o weithio amlasiantaethol yn y maes hwn.

 

4.4. Cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy

Credwn fod cynnwys plant a phobl ifanc yn hollbwysig er mwyn sicrhau eu bod yn mwynhau llesiant da ac er mwyn sicrhau bod eu hanghenion datblygu’n cael eu diwallu. O ganlyniad, rydym yn croesawu’r amcan hwn; er hyn, byddem yn dadlau’n gryf bod cynnwys dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn hollbwysig er mwyn cyflawni’r egwyddor hon.

 

Awgrymwn ei bod yn bwysig bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod cyfranogiad plant a phobl ifanc yn ystyrlon ac yn barhaus, yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei weld fel ymarfer ticio bocsys. Credwn y dylai llais y plentyn fod yn bwysicach na dim byd arall ym mhob rhan o’r broses o ddarparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag ADY. Mae hyn yn cynnwys y broses o wneud asesiadau, wrth weithredu’r cynllun datblygu unigol, wrth adolygu’r cynllun datblygu unigol ac mewn unrhyw broses i ddatrys gwrthdaro a gwneud penderfyniadau gan y tribiwnlys.

 

Mae angen sicrhau hefyd bod pob plentyn yn deall y broses er mwyn iddo gael ei gynnwys mewn ffordd ystyrlon. Gallai hyn bwysleisio’r angen am foddau a dulliau cyfathrebu y bydd yr unigolyn yn eu deall, gan gynnwys  cefnogaeth ieithyddol, lle bo’n briodol, i blant a phobl ifanc ag ADY sydd ag iaith arall ar wahân i Gymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

 

Yn ychwanegol at hyn, o ystyried yr awydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cynnwys yn briodol yn y broses o asesu, datblygu ac adolygu cynlluniau datblygu unigol, ni allwn weld bod y Bil yn cydnabod yr angen i sicrhau bod prosesau yn galluogi’r amser priodol sydd ei angen er mwyn cyflawni hyn yn amodol ar anghenion plant a phobl ifanc unigol.

 

4.5. Dyheadau uchel a gwell deilliannau

Rydym yn cefnogi’r nod hwn yn gryf, ac rydym yn bryderus iawn ynglŷn â’r ystadegau diweithdra difrifol ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn y Deyrnas Unedig,[6] yn enwedig yng Nghymru.[7]

 

Credwn y byddai ehangu cwmpas y ddarpariaeth ADY i gynnwys y rhai sy’n penderfynu dilyn trywydd mwy galwedigaethol ôl-16, yn hytrach na dim ond ar gyfer y rhai sydd mewn addysg bellach neu ysgol, yn sicrhau bod modd ystyried set ehangach o ddyheadau, a sicrhau gwell deilliannau.

 

Rydym yn croesawu’r cynnig i gryfhau’r gefnogaeth a gynigir i’r rhai sy’n gadael gofal, drwy gynnwys y cynllun datblygu unigol yn eu Cynllun Llwybr, ynghyd â’r lefelau uwch o gefnogaeth a gynigir i blant a phobl ifanc ag ADY sy’n cael eu gadw’n gaeth, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau ei hawl i ddatblygu.

 

4.6. System symlach sy’n achosi llai o wrthdaro

Yn gyffredinol, rydym yn croesawu’r system ADY newydd. Rydym yn ymwybodol iawn, drwy ein hymarfer, o gyfyngiadau a natur gymhleth y systemau AAA a oedd yn bodoli cynt.

 

4.7. Rhagor o gydweithredu

Mae rhagor o gydweithredu rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol yn hollbwysig er mwyn osgoi dyblygu gwaith a gwella’r profiad o gefnogaeth i blant a phobl ifanc.

 

Er hyn, rydym hefyd yn galw am ragor o adnoddau er mwyn galluogi rhagor o gydweithredu a gwaith amlasiantaethol. Dylai hyn gynnwys buddsoddiad mewn offer ymarfer a hyfforddiant wedi’i gysoni. Ni ellir trosglwyddo’r dyletswyddau newydd hyn i wasanaethau sydd â llwyth achosion uchel ar hyn o bryd ac sydd â’u hadnoddau dynol dan bwysau.

 

4.8. Osgoi anghytundebau a’u datrys yn gynharach

Mae’r cynnig i ehangu cwmpas y tribiwnlys presennol i gynnwys pob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY yn ein calonogi. Mae’n galonogol gweld hefyd y bydd gwasanaethau eirioli annibynnol a ffrindiau achos yn cael eu darparu lle bo angen, er ein bod yn teimlo bod angen nodi’n glir bod y darpariaethau hyn ar gael ym mhob cam o’r broses ADY, er mwyn sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed ac osgoi gwrthdaro lle bo modd.

 

Rydym hefyd yn amheus a yw pŵer y GIG, i wrthod gorchymyn tribiwnlys i ddiwygio cynllun datblygu unigol er mwyn sicrhau’r darpariaethau dysgu ychwanegol diwygiedig, yn tanseilio pŵer y tribiwnlys.

 

Yn ychwanegol at hyn, hoffem gael sicrwydd na fydd y cynnig sy’n cael ei groesawu, sef ehangu cwmpas y broses dribiwnlys, yn cael effaith negyddol ar yr achosion hynny a fyddai’n ddarostyngedig i’r system Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar hyn o bryd. 

 

4.9. Hawliau clir a chyson i apelio

Er mwyn i’r hawliau apelio fod yn glir ac yn gyson, byddem yn dadlau bod angen i blant, pobl ifanc a rhieni fod yn ymwybodol o’r darpariaethau sydd ar gael ar gyfer gwasanaeth eirioli annibynnol a ffrindiau achos.

 

Unwaith eto, byddai angen sicrwydd bod yr wybodaeth yn cael ei deall, a bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwybod yn union sut y gallant apelio, a beth fydd y broses, pe baent yn penderfynu gwneud hynny. 

 

Mae’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’n gwasanaethau ni yn dweud eu bod wedi teimlo’n nerfus iawn ynglŷn â’r broses apelio. Dywedasant wrthym y byddent yn gwerthfawrogi gwybodaeth glir ac y byddent yn hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl.

 

4.10. Cod gorfodol

Bydd gan y Cod le canolog yn y broses o gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau’r Bil, a dylai hefyd gael ei gynhyrchu mewn ffordd sy’n glir, yn ddealladwy ac ar gael mewn gwahanol fformatau i blant, pobl ifanc a theuluoedd lle mae ADY yn bresennol neu lle gallai fod yn bresennol. Bydd cod gorfodol cadarn yn ychwanegiad a fydd yn cael ei groesawu i’r Bil.

 



[1] Pwyllgor Cymru y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (2010) Adolygiad o Dribiwnlysoedd sy’n Gweithredu yng Nghymru - http://ajtc.justice.gov.uk/docs/RTOW_Welsh_t.pdf   

 

[2] Holland, Sally (2016), Cynllun ar gyfer pob Plentyn a Pherson Ifanc: 2016–19 Hyrwyddo hawliau dynol plant a phobl ifanc. Comisiynydd Plant Cymru. https://www.complantcymru.org.uk/wp-content/uploads/2016/04/Strategic-Plan-Welsh.compressed.pdf

[3] Houses of Parliament (2016), PostNote Number 254: Education in Youth Custody.

[4] Elwick, A., Davis, M., Crehan, L. a Clay, B. (2013). Improving outcomes for young offenders: an international perspective. CfBT Education Trust.

[5] Bryan, K. a Mackenzie, J. (2008), Meeting the Speech, Language and Communication Needs of Vulnerable Young People.

 

[6] Beyer, S., Meek, A. a Davies, A. (2016). Supported work experience and its impact on young people with intellectual disabilities, their families and employers. Advances in Mental Health and Intellectual Disabilities 10 (3), tt. 207-220

[7] Allen, J. (2011). Disability Poverty in Wales. Leonard Cheshire Disability